Skip to [ look again | Skip Navigation | Search | Home | ]
    Testun Yn Unig |  Hwyluso Mynediad |  English | 
Main Content Area

Cysylltiadau gyda Norwy

Bergen yn Norwy

Mae gan Ganolfan Gelfyddydau'r Eglwys Norwyaidd gysylltiadau diwylliannol cryf gyda Chyngor Sir Hordaland yn Norwy.  Mae Caerdydd a Hordaland, sydd ar arfordir de-orllewin Norwy, wedi’u gefeillio ers 1996. Mae’r bartneriaeth rhwng y ddwy ddinas wedi arwain at sefydlu rhaglen gyfnewid ddiwylliannol ac addysgol. Mae cyfnewid gwybodaeth yn elfen bwysig arall, gyda Hordaland er enghraifft yn rhoi cyngor i Gaerdydd am eu profiad gyda llongau teithio i ymwelwyr, fel sail i ddatblygu Caerdydd yn gyrchfan mordeithiau.  Yn ddiweddar hefyd, comisiynwyd Techniquest yng Nghaerdydd i roi cyngor ymgynghorol i atyniad tebyg yn Bergen.

Mae gan Hordaland boblogaeth o 445,060, gyda chanolfan weinyddol y sir yn Bergen. Yno y mae un o gerddorfeydd symffoni hynaf y wlad, yn ogystal ag amryw o amgueddfeydd ac orielau. Mae Bergen hefyd yn gartref i theatr gyntaf Norwy, a adeiladwyd yn 1850. Ar wahân i dwristiaeth a hamdden, mae'r diwydiannau pwysig yn Hordaland yn cynnwys llongau, amaethu dŵr a physgota. Mae Bergen hefyd yn ganolfan bwysig i addysg ac ymchwil, ac yn gartref i nifer o golegau prifysgol a sefydliadau ymchwil.

I gael gwybod mwy, mae gwefan swyddogol Cyngor Sir Hordaland i’w gweld yn: www.hordaland.no.

Mae gwefannau twristiaeth Hordaland a Bergen, gan gynnwys lluniau hyfryd o'r ardal, i'w gweld yn:
www.visithordaland.com
www.viistbergen.com


Cymdeithas Norwyaidd Cymru

Dathliadau`r Diwrnod Cenedlaethol - 17 Mai 2007

Yn dilyn y twf yn y diwydiant glo yng Nghymru, daeth Caerdydd yn borthladd allforio glo mwyaf y byd erbyn 1913. Bryd hynny, roedd morwyr o Norwy yn olygfa gyffredin yng Nghaerdydd a phenderfynodd nifer ohonynt ymgartrefu yma i redeg busnesau oedd yn ymwneud â llongau, gan gynnwys Harold, tad Roald Dahl. Fodd bynnag, parhaodd nifer i fyw eu bywydau ar y môr, ac roedd yr eglwysi tramor yn gartref oddi cartref gwerthfawr iawn, yn enwedig yn ystod yr Ail Ryfel Byd pan nad oedd modd i’r morwyr o Norwy ddychwelyd i’w mamwlad, â hithau wedi'i goresgyn. Caerdydd oedd un o’r mannau cyntaf i gael Eglwys Norwyaidd, ac roedd yn croesawu hyd at 70,000 o forwyr o Lychlyn bob wythnos.

Sefydlwyd Cymdeithas Norwyaidd Cymru fel olynydd naturiol i'r hen gynulleidfa, ac mae ganddi aelodau o Gaerdydd, Abertawe, Norwy a thu hwnt. Mae Canolfan Gelfyddydau'r Eglwys Norwyaidd yn ganolbwynt pwysig i’r grŵp, a chynhelir cyfarfodydd yn rheolaidd i drafod gweithgareddau diwylliannol.

Mae’r digwyddiadau sy’n cael eu trefnu gan y Gymdeithas yn cynnwys dathliad blynyddol Diwrnod Norwy ar 17 Mai, pan fydd gorymdaith liwgar a seremoni godi baner yn cael eu cynnal, gyda choffi a waffls bendigedig yn yr Eglwys Norwyaidd. Digwyddiad poblogaidd arall yw troi goleuadau'r goeden Nadolig ymlaen y tu allan i'r Eglwys Norwyaidd, gyda'r goeden yn rhodd garedig gan gyfeillion yn sir Hordaland yn ne-orllewin Norwy, sydd wedi’i gefeillio â Chaerdydd.

Mae’r digwyddiadau hwyliog hyn ar agor i bawb, ac mae’r seremoni Nadolig flynyddol hefyd yn croesawu grŵp o gynrychiolwyr o Hordaland. Ewch i’r dudalen Ddigwyddiadau i gael manylion am y rhain a digwyddiadau eraill sydd i ddod. Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn cyfrannu ymhellach gysylltu â’r Eglwys Norwyaidd yn uniongyrchol.

ID: 384 Adolygwyd: 20/7/2009
Ymholiadau a chadw tocynnau

 
Canolfan Gelfyddydau'r Eglwys Norwyaidd, Harbour Drive, Bae Caerdydd,CF10 4PA
Ffôn: (+44) 029 2087 7959
norwegianchurch@cardiff.gov.uk powered by COMS from Square Solutions