Skip to [ look again | Skip Navigation | Search | Home | ]
    Testun Yn Unig |  Hwyluso Mynediad |  English | 
Main Content Area

Dod o hyd i ni

Mae Canolfan Gelfyddydau’r Eglwys Norwyaidd wedi'i lleoli yn Harbour Drive ar lannau Bae Caerdydd. Ymwelwch â’r gwefannau ar yr ochr chwith i ddarganfod mwy am Fae Caerdydd neu ymwelwch â’r wefan hon gan breswylydd lleol, sydd â llawer o ddolenni da -  www.cardiffbay.co.uk. Fe allwch chi gyrraedd y Ganolfan mewn sawl ffordd:-

Gweld map

Cerdded / Seiclo
Mae llwybrau seiclo i’w gweld ar wefan Sustrans www.sustrans.org.uk . Rhodfa Lloyd George (edrychwch ar y map uchod) yw’r llwybr gorau i gerddwyr a seiclwyr sy'n dod i Fae Caerdydd.

Ym mhen draw Rhodfa Lloyd George, mae Canolfan y Mileniwm ar y chwith a siopau Cei’r Fôr-forwyn ar y dde, ble mae cyfleusterau i gloi beiciau. Trowch i’r chwith a cherdded ar hyd glannau’r dŵr am 300m i Ganolfan Gelfyddydau’r Eglwys Norwyaidd.

Ar Fws
Ewch i www.traveline-cymru.org.uk i gynllunio’ch taith. Mae Bws y Bae yng Nghaerdydd (gwasanaeth 6) yn rhedeg bob 10 munud (bob 15 munud ar ddydd Sul) rhwng canol y ddinas a Bae Caerdydd – ewch i www.cardiffbus.com i weld yr amserlenni. Mae’r gwefannau hyn hefyd yn rhoi gwybodaeth am wasanaethau o rannau eraill o Gaerdydd.
Ar Drên
Mae trên rheolaidd yn rhedeg rhwng Gorsaf Heol-y-Frenhines Caerdydd a Bae Caerdydd bob rhyw 15 munud, ar wahân i ddydd Sul. I gael manylion yr amserlenni, ewch i www.arrivatrainswales.co.uk

Y Bws Dŵr
Mae gan nifer o gwmnïau bws dŵr wasanaethau rhwng canol y ddinas, Penarth a Bae Caerdydd. Ewch i wefannau’r cwmnïau isod i weld yr amserlenni diweddaraf.
www.cardiffwaterbus.com
www.aquabus.co.uk

Mewn Car
Os ydych chi’n teithio ar yr M4, gadewch yng Nghyffordd 33 a dilyn yr A4232. Dilynwch yr arwyddion i Fae Caerdydd. Dilynwch yr A4232 dros Bont Afon Taf a thrwy dwneli Butetown. Yn y gylchfan ar ôl y twneli, dilynwch yr ail ffordd ar y chwith am Fae Caerdydd. Yn y goleuadau traffig, trowch i’r dde a gyrru ar hyd Pierhead Street. Gyrrwch yn syth drwy’r set nesaf o oleuadau. Yn y set nesaf o oleuadau, ger y gyffordd â’r Cynulliad Cenedlaethol, trowch i’r chwith ar hyd Britannia Quay. Ym mhen draw’r stryd, trowch i’r chwith i lawr Harbour Drive ac mae’r Eglwys Norwyaidd yn y pen draw yn edrych dros Fae Caerdydd.

Parcio
Mae maes parcio ‘Talu ac Arddangos’ ger Canolfan Gelfyddydau'r Eglwys Norwyaidd, oddi ar Harbour Drive. Mae meysydd parcio ‘Talu ac Arddangos’ eraill i’w cael yng Nghei’r Fôr-Forwyn oddi ar Stryd Stuart, ac yng Ngwesty Dewi Sant oddi ar Havannah Street.

Awyr Y maes awyr agosaf yw Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd: www.cwlfly.com. Gellir dod o hyd i westai: www.cardiffairporthotels.com. Neu ymwelwch â’r wefan (chwith) am fwy o fanylion am aros yng Nghaerdydd.

Bysus
Os byddwch chi'n cyrraedd ar fws, gallwch gael eich gollwng yn Harbour Drive y tu allan i'r Eglwys Norwyaidd. Mae map a chanllaw i barcio bysus yng nghanol y ddinas ar gael gan y Cyngor Sir – gweler isod. Fe allwch chi gael copi o’r canllaw drwy ffonio 029 2087 3252 neu drwy anfon e-bost i travel@cardiff.gov.uk

Parcio Bysus

Mynediad
Mae mynedfa flaen Canolfan Gelfyddydau'r Eglwys Norwyaidd yn wynebu glannau’r dŵr ar y llwybr i gerddwyr. Mae mynedfa gyda ramp yng nghefn yr adeilad fel y byddwch yn cyrraedd Harbour Drive. Mae toiledau sy’n hwylus i bawb hefyd ar gael. Os bydd gennych chi unrhyw ymholiadau am anghenion mynediad, cysylltwch â ni a gallwn eich rhoi ar ben ffordd.

ID: 329 Adolygwyd: 20/7/2009
Ymholiadau a chadw tocynnau

 
Canolfan Gelfyddydau'r Eglwys Norwyaidd, Harbour Drive, Bae Caerdydd,CF10 4PA
Ffôn: (+44) 029 2087 7959
norwegianchurch@cardiff.gov.uk powered by COMS from Square Solutions