Skip to [ look again | Skip Navigation | Search | Home | ]
    Testun Yn Unig |  Hwyluso Mynediad |  English | 
Main Content Area

Hanes yr Eglwys

Yr Eglwys yn ei lleoliad gwreiddiol

Porthladd Caerdydd oedd un o’r cyntaf i sefydlu Eglwys Norwyaidd i forwyr, a hynny er mwyn darparu gofal cymdeithasol a lleoliad crefyddol i'r miloedd o forwyr o Norwy a oedd yn cael eu cyflogi ar longau masnach y wlad. Sefydlwyd yr Eglwys gan Herman Lunde o Oslo, a chafodd ei hadeiladu yn 1868 rhwng Dociau’r Dwyrain a’r Gorllewin ar dir a roddwyd gan Ardalydd Bute. Cafodd ei chysegru ym mis Rhagfyr y flwyddyn honno. Yn y blynyddoedd dilynol, ehangwyd yr Eglwys nifer o weithiau gan gynyddu maint yr ystafelloedd darllen. Yn 1885 y gwnaed yr addasiadau mwyaf wrth ychwanegu galeri a thŵr cloc.

 

Roedd yr Eglwys yn brysur iawn bryd hynny, a daeth yn enwog drwy’r byd fel man cyfarfod i forwyr Llychlynnaidd. Rhwng 1867 ac 1915 gwasanaethai’r Eglwys rhwng 7,500 a 73,000 o forwyr bob blwyddyn. O’r holl eglwysi a sefydlwyd ym Mhrydain gan Genhadaeth y Morwyr Norwyaidd, hon oedd yr hynaf a oedd yn dal i sefyll ac roedd yn ganolbwynt i grefydd, diwylliant a thraddodiadau Llychlynnaidd.  Cenhadaeth y morwyr oedd yr Eglwys yn bennaf, ond roedd hefyd yn gartref oddi cartref i forwyr ble gallent ddarllen papurau newydd a chylchgronau eu gwlad ac ymlacio a sgwrsio gyda chyfeillion. Er gwaethaf y waliau rhychog y tu allan, roedd yr Eglwys yn dawel ac yn heddychlon y tu mewn, gyda darluniau a phlanhigion ar y waliau a model o long hwylio’n crogi o’r nenfwd uwch y côr. Roedd lluniau teuluoedd brenhinol Norwy, Denmarc a Sweden yn crogi ar y waliau, ynghyd â lluniau o Norwy ei hun, tra bo tapestrïau a baneri Norwy bychain yn addurno'r byrddau.

 

Wrth i’r diwydiant allforio glo o ddociau Caerdydd ddirywio, trodd llongau masnach Norwy eu golygon at fannau eraill, a phenderfynodd Cenhadaeth Morwyr Norwy i dynnu eu cenhadaeth o’r Eglwys yng nghanol y 1960au. Ariannodd y gynulleidfa leol a sefydliadau Lutheraidd eraill yr eglwys er mwyn parhau i’w defnyddio. Arhosodd o dan reolaeth leol tan achosodd cyfyngiadau ariannol i’r eglwys gau yn llwyr a chafodd ei digysesgru yn 1974.

Ailgodi`r Eglwys yn ei lleoliad newydd ar lannau`r dŵr ym Mae Caerdydd

 

Heb neb i’w gynnal a’i gadw, dirywiodd cyflwr yr adeilad a chafodd ei fandaleiddio. Rhag iddo gael ei ddifrodi’n llwyr wrth i Lanfa Iwerydd ddatblygu, cafodd yr adeilad ei dynnu i lawr yn ofalus yn 1987 gan Ymddiriedolaeth Cadwraeth yr Eglwys Norwyaidd. Cafodd darnau o du mewn yr eglwys eu hachub a’u storio. Llwyddodd yr Ymddiriedolaeth, mewn partneriaeth â Phwyllgor Cymorth Norwyaidd yn Bergen, i godi £250,000 yng Nghymru a Norwy i dynnu’r Eglwys i lawr a’i hailgodi yn ei safle presennol. Darparwyd y safle gan Associated British Ports, ac mae'r adeilad bellach mewn lle amlwg ar lannau'r dŵr ym Mae Caerdydd. Amcanion yr Ymddiriedolaeth oedd “hybu addysg y cyhoedd, drwy hyrwyddo'r gwaith o gynnal a chadw’r Eglwys yn barhaol fel amgueddfa”.

Y Dywysoges Martha Louise o Norwy yn agor yr Eglwys ym mis Ebrill 1992

 

Ail-agorwyd yr Eglwys Norwyaidd gan y Dywysoges Martha Louise o Norwy ar 8 Ebrill 1992. Y Dywysoges Martha Louise yw plentyn hynaf y Brenin Harold V a’r Frenhines Sonja o Norwy. Hen hen daid a nain y Dywysoges Martha oedd y Brenin Edward VII a'r Frenhines Alexandra o Brydain. Enwyd Dociau'r Frenhines Alexandra ym Mhorthladd Caerdydd ar ei hôl, a chawsant eu hagor ganddi yn 1907.

 

Trosglwyddwyd Ymddiriedolaeth Cadwraeth yr Eglwys Norwyaidd i’r Cyngor Sir, o dan reolaeth Awdurdod Harbwr Caerdydd, ym mis Mai 2006. Bwriedir parhau i gadw ac ehangu’r rhaglenni diwylliannol a chelfyddydol a’r cysylltiadau rhwng Cymru a Norwy, ynghyd â’r atyniad pwysig hwn i ymwelwyr ym Mae Caerdydd er budd cenedlaethau'r dyfodol.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am hanes yr Eglwysi Norwyaidd yng Nghaerdydd neu Abertawe, ewch i wefan Herbert E Roese, un o gyfeillion yr Eglwys Norwyaidd - http://www.norwegianchurch.250x.com.

Sylwch na all yr Eglwys Norwyaidd fod yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.

 

Os hoffech chi weld rhagor o luniau o’r Eglwys Norwyaidd, ewch i’r oriel luniau.

 

Roald yn ei gwt ysgrifennu yn 1989. Roald oedd llywydd cyntaf Ymddiriedolaeth Cadwraeth yr Eglwys Norwyaidd

Y Cysylltiad â Roald Dahl 

 

 

 

Ar 13 Medi 1916, ganwyd yr awdur byd-enwog Roald Dahl i rieni o Norwy yn Fairwater Road, Llandaf, Caerdydd. Ei dad Harold, o Oslo, oedd un o sylfaenwyr partneriaeth lwyddiannus y broceriaid llongau Andnessen a Dahl a fu’n masnachu yng Nghaerdydd ers 1880, ac roedd gan y cwmni swyddfeydd ym mhorthladdoedd Casnewydd, Abertawe a Phort Talbot.
Daeth Dahl yn enwog am ei lyfrau i blant gan gynnwys Charlie and the Chocolate Factory a James and the Giant Peach. Ysgrifennodd storïau arswyd i oedolion a sgriptiau ffilm hefyd, a daeth y storïau'n arbennig o boblogaidd wrth gael eu haddasu ar gyfer y teledu.

 

Treuliodd Roald Dahl ei blentyndod cynnar a’i ddyddiau ysgol yng Nghaerdydd, lle’r addoli ei deulu yn yr Eglwys Norwyaidd yn ei lleoliad gwreiddiol yn Nociau Caerdydd. Yn wir, cafodd Dahl a'i chwiorydd eu bedyddio yn yr Eglwys.

 

Yn 1987, sefydlwyd Ymddiriedolaeth Cadwraeth yr Eglwys Norwyaidd i achub yr hen eglwys adfeiliedig, ac i gasglu arian er mwyn ailgodi'r adeilad nodedig yng nghanol y dociau oedd yn cael eu hadfywio. Daeth Roald Dahl yn llywydd cyntaf ar yr ymddiriedolaeth, ond yn anffodus bu farw yn 1990 cyn i’r gwaith o ailadeiladu’r Eglwys ddod i ben.

 

Er mwyn anrhydeddu’r llywydd cyntaf enwog, cynhelir parti pen-blwydd Roald Dahl i blant yn yr Eglwys bob mis Medi. Mae hwn yn ddigwyddiad llwyddiannus sy’n cael nawdd gan gwmnïau lleol ac yn cadw etifeddiaeth yr awdur mawr yn fyw.

 

Fe allwch chi gael rhagor o wybodaeth am lyfrau plant Roald Dahl yn www.roalddahl.com, ac mae stori ei fywyd a'i waith i’w gweld yn Amgueddfa Roald Dahl yn Swydd Buckingham – ewch i www.roalddahlmuseum.org am fanylion.

 

 

ID: 328 Adolygwyd: 20/7/2009
Ymholiadau a chadw tocynnau

 
Canolfan Gelfyddydau'r Eglwys Norwyaidd, Harbour Drive, Bae Caerdydd,CF10 4PA
Ffôn: (+44) 029 2087 7959
norwegianchurch@cardiff.gov.uk powered by COMS from Square Solutions