Skip to [ look again | Skip Navigation | Search | Home | ]
    Testun Yn Unig |  Hwyluso Mynediad |  English | 
Main Content Area

Seremonïau Bendithio Priodasau

Table Wedding

Mae’r Ystafell Norwyaidd (y brif neuadd) a'r Oriel ill dau ar gael i'w llogi yn ystod y dydd, a gellir llogi'r holl adeilad gyda'r nos, gan droi'r siop goffi yn far. Mae’r Ganolfan yn cael ei hadnabod fel “lleoliad sy’n wahanol” ac mae’n lle delfrydol a llawn awyrgylch ar gyfer cynnal digwyddiadau fel cynadleddau, seremonïau bendithio priodasau a gwleddoedd priodas.

Dros y flwyddyn ddiwethaf mae’r Eglwys wedi cynnal nifer o ddiwrnodau meithrin timau llwyddiannus i gwmnïau, gwleddoedd priodas arbennig ac achlysuron teuluol cofiadwy. Dyma rai o’r sylwadau a gafwyd:

“Gwasanaeth personol ac ymatebol”
Mr a Mrs Robinson o Fragle, Pen-y-bont ar Ogwr

“Lleoliad unigryw a heb ei ail i ddathlu achlysur arbennig.”
Mr Thomas o Radur, Caerdydd

“Byddwn bob amser yn cael croeso cynnes pan fydd ein Grŵp yn cyfarfod yn yr Eglwys”
Cymdeithas Gitârs De Cymru

Cysylltwch â ni os hoffech chi drefnu i logi’r Eglwys Norwyaidd, a byddwn yn gwneud ein gorau i greu’r digwyddiad perffaith ar eich cyfer. Fe allwch fod yn ffyddiog y cewch groeso cynnes bob tro ynghyd â gwasanaeth rhagorol yng Nghanolfan Gelfyddydau'r Eglwys Norwyaidd.

Llwythwch y pecyn hwn am yr holl fanylion gan gynnwys costau, cyfleusterau a maint ystafelloedd

 

Rhagor o Wybodaeth

Nid yw’r Eglwys Norwyaidd yn adeilad cysegredig, ac o ganlyniad dim ond ar gyfer bendithio priodasau y bydd ar gael. Nid oes ganddi drwydded i gynnal seremonïau priodas.

...ac ar gyfer eich anghenion arlwyo...

Gyda thros 20 mlynedd o brofiad yn lleol ac yn rhyngwladol, mae Arlwyo Caerdydd yn gweithio ym mhob un o leoliadau’r Cyngor, gan gynnwys Neuadd Dewi Sant, Castell Caerdydd, Neuadd y Ddinas, y Plasty a Chanolfan Gelfyddydau'r Eglwys Norwyaidd.

Mae gan Arlwyo Caerdydd y profiad a’r arbenigedd i ddarparu ar gyfer eich holl anghenion arlwyo – o gyfarfodydd swyddfa bach a chanapés i briodasau, cynadleddau a gwleddoedd rhyngwladol. Mae modd iddynt hefyd ddarparu pecynnau lletygarwch corfforaethol gan gynnwys cynadleddau dydd, gemau rygbi a phriodasau.

Mae Arlwyo Caerdydd yn ymfalchïo’n y ffaith eu bod yn defnyddio bwydydd lleol, gan gynnwys cynnyrch llwyddiannus "Gwir Flas".

Os bydd angen rhagor o gymorth neu wybodaeth arnoch, cysylltwch ag (029) 2087 7959 neu norwegianchurch@cardiff.gov.uk

Os bydd angen rhywbeth gwahanol arnoch, cysylltwch â ni ar bob cyfrif.

ID: 385 Adolygwyd: 20/7/2010
Ymholiadau a chadw tocynnau

 
Canolfan Gelfyddydau'r Eglwys Norwyaidd, Harbour Drive, Bae Caerdydd,CF10 4PA
Ffôn: (+44) 029 2087 7959
norwegianchurch@cardiff.gov.uk powered by COMS from Square Solutions