Skip to [ look again | Skip Navigation | Search | Home | ]
    Testun Yn Unig |  Hwyluso Mynediad |  English | 
Main Content Area

Amdanom Ni

Yr Eglwys o`r Harbar

Mae’r Ganolfan, a arferai fod yn Eglwys i Forwyr Norwyaidd, yn un o adeiladau nodedig Bae Caerdydd gyda golygfeydd eang dros y glannau a'r llyn dŵr croyw.

Mae’r Ganolfan yn atyniad unigryw i ymwelwyr ac wedi croesawu tua 200,000 o ymwelwyr y flwyddyn ers agor yn 1992. Mae’n lleoliad diwylliannol nodedig sy’n cynnig rhaglen flynyddol amrywiol o arddangosfeydd, cyngherddau a digwyddiadau. Mae gan y ganolfan hefyd siop goffi braf ar lannau'r dŵr sy’n gwerthu cacennau o bob math a phrydau Norwyaidd.

Mae’r Ystafell Norwyaidd (y brif neuadd) a'r Oriel ill dau ar gael i'w llogi yn ystod oriau agor, a gellir llogi'r holl adeilad gyda'r nos, gan droi'r siop goffi yn far. Mae’r Ganolfan yn cael ei hadnabod fel “lleoliad sy’n wahanol” ac yn ddelfrydol ar gyfer partïon a gwleddoedd priodas. Mwy o wybodaeth am logi'r Ganolfan.

Mae’r Ganolfan yn falch bod ganddi gysylltiadau o hyd â Norwy, ac yn enwedig â Hordaland Folkeskommune, tra bo Cymdeithas Norwyaidd Cymru yn cynnal digwyddiadau cymdeithasol a chyfarfodydd rheolaidd yn y Ganolfan. Mwy o wybodaeth am y cysylltiadau diwylliannol a masnachol hyn.

Gobeithio y byddwch yn mwynhau’r wefan hon ac edrychwn ymlaen at eich croesawu i Ganolfan Gelfyddydau’r Eglwys Norwyaidd cyn bo hir.



Oriau Agor

Canolfan Gelfyddydau’r Eglwys Norwyaidd:
10am tan 5pm, 7 diwrnod yr wythnos.
(yn ogystal â digwyddiadau gyda’r nos)



ID: 330 Adolygwyd: 20/7/2009
Ymholiadau a chadw tocynnau

 
Canolfan Gelfyddydau'r Eglwys Norwyaidd, Harbour Drive, Bae Caerdydd,CF10 4PA
Ffôn: (+44) 029 2087 7959
norwegianchurch@cardiff.gov.uk powered by COMS from Square Solutions