Skip to [ look again | Skip Navigation | Search | Home | ]
    Testun Yn Unig |  Hwyluso Mynediad |  English | 
Main Content Area

Cynadleddau a Lletygarwch Corfforaethol

Conference

Mae Canolfan Gelfyddydau'r Eglwys Norwyaidd yn un o adeiladau nodedig Bae Caerdydd sydd â golygfeydd eang dros y glannau a'r llyn dŵr croyw. Gyda’i lleoliad gwych a'r addurniadau pren
unigryw y tu mewn, mae’r Ganolfan yn ddelfrydol ar gyfer cynadleddau bach, cyfarfodydd, digwyddiadau corfforaethol a dathliadau arbennig.

 

Cynadleddau a Chyfarfodydd

 

Yn awyrgylch braf yr Ystafell Norwyaidd, gellir cynnal cynhadledd i hyd at 90 o bobl neu gyfarfod pwyllgor i hyd at 40 o bobl. Mae’r oriel hefyd ar gael i'w llogi ac yn dal hyd at 50 o bobl, sy'n ei gwneud yn berffaith ar gyfer seminarau neu sesiynau allanol. Y tu ôl i’r addurno unigryw mae’r Ganolfan yn hynod o hyblyg gyda’i system sŵn integredig ei hun, goleuo a llwyfannau yn ogystal
â rhwydwaith i gyfrifiaduron.

 

Mae gwasanaeth arlwyo llawn hefyd ar gael yn y Ganolfan. Mae’r gwasanaeth rhagorol hwn yn cael ei ddarparu gan Arlwyo Caerdydd, arlwywyr cydnabyddedig sydd â thros 20 mlynedd o brofiad yn lleol ac yn rhyngwladol, ac sy’n gweithio hefyd yn Neuadd Dewi Sant, Castell Caerdydd, Neuadd y Ddinas a’r Plasty.

 

Os hoffech chi drafod cyn llogi, cysylltwch â ni ar bob cyfrif drwy ffonio (029) 2087 7959 neu drwy anfon e-bost i norwegianchurch@cardiff.gov.uk.

 

“Diolch yn fawr iawn am ddarparu lleoliad gwych, i gynnal ein gweithdy rhaglenni dogfen. Roedd yr arlwyaeth yn rhagorol a chafwyd help mawr gan enethod y caffi drwy’r dydd.” - Rachel, Cydlynydd Media Antenna Cymru

 

Llwythwch y pecyn hwn am yr holl fanylion gan gynnwys costau, cyfleusterau a maint ystafelloedd

 

Ffurflenni Archebu ac Amodau Llogi

 

Sylwch fod yn rhaid llenwi ffurflen archebu a thalu blaendal cyn llogi Canolfan Gelfyddydau’r Eglwys Norwyaidd. Mae nifer o delerau ac amodau hefyd yn berthnasol wrth ddefnyddio’r cyfleuster. Fe allwch chi gael y ffurflenni hyn a’r wybodaeth drwy gysylltu â'r Eglwys Norwyaidd neu drwy eu llwytho isod:

 

Ffurflen Archebu Gyffredinol 

 


Ffurflen Archebu'r Oriel 

 


Amodau Defnyddio 

 

Rhagor o Wybodaeth

 

Bydd trefnwyr y digwyddiadau yn cael mynediad i’r ystafelloedd un awr ymlaen llaw. Codir tâl am unrhyw amser ychwanegol sydd ei angen cyn y digwyddiad er mwyn gosod arddangosfeydd a llwyfannau ac ati ar yr un cyfraddau â'r uchod.

 

Lletygarwch Corfforaethol

 

Mae Canolfan Gelfyddydau'r Eglwys Norwyaidd yn darparu pecynnau Lletygarwch Corfforaethol ar ffurf ciniawau ffurfiol, ciniawau bach corfforaethol, a bwydlen cyn ac ar ôl cyngherddau. I gael rhagor o wybodaeth am y cynigion diweddaraf, cysylltwch ag (029) 2087 7948 neu nburnett@cardiff.gov.uk  

 

“Diolch yn fawr iawn i chi a phawb yn yr Eglwys am sicrhau bod digwyddiad lansio Cryno Ddisg Martyn nos Sadwrn yn noswaith mor dda. Mae’r adborth gan bawb wedi bod yn wych…ac roedd y lleoliad yn sicr wedi ychwanegu at y noson.” -Nikki, Recordiau Pipe

 

“Am noson wych!! Cawsom amser arbennig ac roedd pawb wedi mwynhau eu hunain. Roedd y bwyd a’r staff yn wych!” - Jackie, Deloitte



ID: 387 Adolygwyd: 30/6/2010
Ymholiadau a chadw tocynnau

 
Canolfan Gelfyddydau'r Eglwys Norwyaidd, Harbour Drive, Bae Caerdydd,CF10 4PA
Ffôn: (+44) 029 2087 7959
norwegianchurch@cardiff.gov.uk powered by COMS from Square Solutions